Cristnogaeth yng Nghymru a Dyddiadau’r Pasg
Yn ôl y traddodiad Joseff o Arimathea ddaeth â Christnogaeth i Brydain ond beth am Gymru? Mae’n sicr y byddai Cristnogion ymhlith milwyr byddin Rhufain yng Nghymru ond yn ôl un o haneswyr Rhufain, roedd Cristnogaeth wedi cyrraedd ardaloedd na fu erioed ym meddiant y Rhufeiniaid. Mae un peth yn sicr. Erbyn y chweched ganrif roedd Cristnogaeth â gafael sicr ar Gymru.
Dethlir y Pasg ar y dydd Sul ar ôl y lleuad llawn ar neu ar ôl Alban Eilir. Mae hyn yn golygu y gall y Pasg ddigwydd unrhyw bryd rhwng 22 Mawrth a 25 Ebrill.
Mae’n debyg bod y gair Pasg yn perthyn i’r gair ‘pascha’ yn iaith y Groegiaid. Mae rhai hefyd wedi tynnu sylw at y cysylltiad â’r gair ‘pesgi’ yn Gymraeg.