Gwefan S4C i Ddysgwyr y Gymraeg
Newyddion Heddiw
Pwrpas y penawdau hyn ar gyfer dysgwyr canolradd ydy darparu ymarfer. Dyn nhw ddim yn benawdau 'go iawn'. Dros gyfnod bydd yr adnawdd hwn yn cyflwyno prif batrymau'r newyddion i gyd.
Y dyddiad heddiw ydy'r pedwerydd (the fourth) a dyma'r newyddion
Cyhoeddwyd bod (it was announced that) naw deg o bobl yn mynd i golli'u swyddi yn Abergrango eleni. Mae ffatri Abergrango, sy'n gwneud nwyddau (goods) plastig yn beio'r ddoler wan (blame the weak dollar). Dydy pobl yn America ddim yn gallu fforddio (afford) talu am y nwyddau.
Ond newyddion da yn ardal Maesdaf. Mae cwmni lleol - Culturetech Ltd - wedi ennill cytundeb (won a contract) i lunio gwefannau (design websites) i ddeg coleg yn Ewrop. Mae Culturetech yn gobaith cyflogi (employ) pum deg o staff newydd.
Chwaraeon nesaf, ac mae tîm hoci Rhydhafod ar y ffordd i Awstria heddiw i chwarae yn erbyn tîm pentref Cematen. Mae Rhydhafod ar frig Cynghrair (at the top of the league) Trefi Bach Ewrop.
A'r traffig i orffen. Does dim problemau heddiw ar yr A987 ac mae'r traffig yn llifo'n esmwyth (flowing freely) trwy'r twnnel. Ond mae goleuadau dros dro (temporary lights) ar yr A986 yn arafu'r traffig.
Dyna'r newyddion heddiw - y pedwerydd o'r mis.