Gwefan S4C i Ddysgwyr y Gymraeg
S4C - Ffeithiau Chwim

John Walter Jones OBE,
Cadeirydd Awdurdod S4C
Sefydlwyd S4C - Sianel Pedwar Cymru – gan Ddeddfau Darlledu 1980/81. Dechreuodd ddarlledu nos Lun, 1 Tachwedd 1982, am 6 yr hwyr.
Caiff S4C ei hariannu gan yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn ôl fformiwla statudol. Cynhyrchir incwm ychwanegol gan adain fasnachol y sianel, S4C Masnachol.
Mae S4C, sydd yn ddarlledwr cyhoeddus, yn atebol i Awdurdod S4C, awdurdod darlledu annibynnol.
Cynhyrchir holl raglenni Cymraeg S4C gan gynhyrchwyr annibynnol, gan gynnwys ITV1 Wales. Darperir deg awr yr wythnos o raglenni o gost y drwydded drwy’r BBC.
Mae S4C ar analog yn darlledu oddeutu 35 awr yr wythnos yn y Gymraeg yn ystod yr oriau brig, gan amlaf. Fe ddarlledir ystod eang o raglenni Cymraeg poblogaidd, o ddrama ac adloniant i chwaraeon, newyddion, a rhaglenni plant. Fe gwblheir yr amserlen ar adegau eraill gan oreuon rhaglenni Saesneg Channel 4.
Lansiwyd S4C digidol ym mis Tachwedd 1998. Mae’n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Y mae S4C digidol ar gael yn rhad ac am ddim y tu allan i Gymru ar deledu lloeren ddigidol Sky.

Iona Jones,
Prif Weithredwr S4C
Mae S4C 2, ail sianel ddigidol a lansiwyd ym 1999, yn darlledu’n fyw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Animeiddio yw un o feysydd mwyaf llwyddiannus y Sianel. Cynhyrchiad S4C SuperTed oedd y gyfres animeiddio Brydeinig gyntaf i’w darlledu gan Disney, tra bod y cyd-gynhyrchiad 39 gwlad, Chwedlau’r Byd wedi’u Hanimeiddio, wedi ei ddarlledu mewn dros gan gwlad, mewn 30 o wahanol ieithoedd.
Mae S4C wedi derbyn llu o wobrau am ei rhaglenni, gan gynnwys pedwar enwebiad Oscar.
Mae Gwifren Gwylwyr S4C ar gael yn ddyddiol i ateb ymholiadau - 0870 6004141. Ceir holl newyddion diweddaraf y sianel ar ei gwefan - www.s4c.co.uk.
Iona Jones yw Prif Weithredwr S4C; John Walter Jones OBE yw Cadeirydd Awdurdod S4C.