yr ystafell gefn
Y Gymraeg
O’r holl ieithoedd Celtaidd heddiw, y Gymraeg ydy’r iaith gadarnaf.
Dechreuodd esblygu o’r hen Frythoneg yn y drydedd ganrif O.C. ac mae’n perthyn yn agos iawn i’r Llydaweg ac i’r Gernyweg. Mae’r Gymraeg hefyd yn perthyn – er yn bellach - i’r Wyddeleg a’r Aeleg ac er bod yr ieithoedd hyn yn swnio ac yn edrych yn hollol wahanol ar yr olwg gyntaf mae modd gweld y tebygrwydd yn glir trwy astudio geirfa a phatrymau’r ieithoedd hyn.
Dydy cystrawennau sylfaenol y Gymraeg ddim wedi newid ryw lawer er y chweched ganrif O.C. ac mae’n bosib i fyfyrwyr sydd yn astudio’r Gymraeg dan arweiniad arbenigwyr ddeall y dogfennau cynharaf heb ormod o drafferth.
Mae’r iaith wrth gwrs wedi tyfu a datblygu dros y canrifoedd. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif y gwelwyd y newidiadau mwyaf. Daeth geirfa’r chwyldro diwydiannol a’r ffyrdd newydd o fyw a ddaeth yn sgil y chwyldro I gyfoethogi’r Gymraeg. Ar yr un pryd, wrth i ddylanwad y Saesneg – prif gyfrwng y chwyldro diwydiannol - dyfu , collodd y Gymraeg dir mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.
Mae’r Gymraeg, fodd bynnag, yn hyfyw o hyd ac mae’n derbyn cefnogaeth pobl a sefydliadau Cymru. Mae ugain y cant o’r boblogaeth yn ei siarad hi – yn yr ardaloedd gweledig traddodiadol ac yn y De-ddwyrain poblog. Mae holl blant Cymru naill ai’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol neu’n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
