Gwersylloedd yr Urdd
Cynhaliwyd gwersyll cyntaf yr Urdd ym 1928 yn Llanuwchllyn, cartref Syr Ifan ab Owen Edwards, y sylfaenydd. Gwersyll i 100 o fechgyn oedd hwn ac roedd pawb yn cysgu mewn pebyll.
Daeth y gwersylloedd hyn yn boblogaidd iawn ac ym 1932 cafodd yr Urdd dir ar gyfer gwersyll parhaol yn Llangrannog. Dechreuwyd cynnal gwersylloedd hefyd ym Mhorthdinllaen ger Nefyn.
Am rai blynyddoedd, byddai bechgyn a merched yn gwersylla yn Llangrannog ac ym Mhorthdinllaen bob yn ail - ond fydden nhw byth yn rhannu’r un gwersyll.
Yn 1950 daeth Glanllyn ar lan Llyn Tegid ger Y Bala yn eiddo i'r Urdd a sefydlwyd gwersyll parhaol arall. Erbyn hyn, mae gwersyll parhaol arall ym Mae Caerdydd a chanolfan yng ngorllewin Cymru hefyd. Rhwng y canolfannau cynigir profiadau unigryw i dros 30,000 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn.