yr ystafell gefn
Newyddion Heddiw
Pwrpas y penawdau hyn ar gyfer dysgwyr canolradd ydy darparu ymarfer. Dyn nhw ddim yn benawdau 'go iawn'. Dros gyfnod bydd yr adnawdd hwn yn cyflwyno prif batrymau'r newyddion i gyd.
Y dyddiad heddiw ydy'r seithfed (the seventh) a dyma'r newyddion
Bu farw'r actor Richard Davies (the actor Richard Davies died) neithiwr yn naw deg tri oed. Roedd yr actor yn enwog (famous) am ei rôl yn y ffilmiau The Wales of the Future ym 1954 a Where the Muse Takes Us ym 1949. Bu Mr Davies farw yn sydyn yn ei gartref yn Llwyneiddyl. Roedd ei wraig a'i blant gyda fe.
Agorwyd canolfan hamdden newydd yn Aberbigog ddoe gan y Prif Weinidog (First Minister) yn Llywodraeth Cynulliad Cymru (Welsh Assembly Government). Bydd y canolfan hamdden newydd ar agor trwy'r dydd a thrwy'r nos a bydd yn cynnig (offer) rhai o'r adnoddau gorau (best resources) yn Ewrop.
Bydd deg o blant Trefoer yn mynd i Fae Caerdydd heddiw i dderbyn gwobr (receive an award). Mae'r deg wedi peintio llun o bentref Trefoer i fynd ar wal adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r plant yn gobeithio cyfarfod a'r Prif Weinidog a'r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol-oes (the Minister for Education and Life-ling Learning).
A'r traffig i orffen. Mae tagfeydd traffig ofnadwy (terrible traffic jams) yr A560 heddiw ac mae'r traffig yn stond am bum milltir (the traffic is at a standstill for five miles). Dylech chi gadw'n glir o'r ardal (you should keep clear of the area) os yn bosib.
Dyna'r newyddion heddiw - y seithfed o'r mis.
