yr ystafell gefn
Hysbysfwrdd
Holi Gwylwyr S4C

Mae cyfle i wylwyr S4C roi barn y gwasanaethau sy’n cyd-fynd a’r rhaglenni - sef isdeitlo Cymraeg a Saesneg, Sain Ddisgrifio, arwyddo a thrac sain Saesneg.
Mae'r holiadur yn berthnasol i bob gwyliwr sy'n defnyddio un neu fwy o'r gwasanaethau, gan gynnwys aelodau o'ch teulu.
Mae holiadur ar gael i’w lenwi ar-lein (Cymraeg neu Saesneg) ar www.s4c.co.uk/mynediad neu drwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141. Bydd aelod o staff y Wifren yn eich ffonio chi'n ôl i lenwi'r holiadur i chi dros y ffôn.
Chwaraeon ar S4C

Rygbi: Gemau byw bob nos Sadwrn a gemau canol wythnos yn Y Clwb Rygbi; uchafbwyntiau gemau rygbi o wledydd eraill bob nos Wener yn Rygbi’r Byd ar S4C Digidol; darlledu byw o gemau Cymru yn Y Clwb Rygbi Rhyngwladol.
Pêl-droed: Uchafbwyntiau gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru bob nos Sadwrn yn Sgorio Cymru; gemau Ewropeaidd bob nos Lun yn Sgorio; uchafbwyntiau gemau Cymru.
Golff: Uchafbwyntiau cystadlaethau rhyngwladol a hanesion golffio bob nos Fercher ar Golffio.
Chwaraeon Eithafol: Uchafbwyntiau bob nos Fawrth a nos Iau yn Chwa!
Cwis Chwaraeon: Cwis chwaraeon i ysgolion Cymru bob nos Lun yn Pencampau.
Ewch i wefan chwaraeon S4C.
Gŵyl y Faenol

Bydd Gŵyl y Faenol ymlaen dros benwythnos Awst 22-25. Unwaith eto bydd camerâu S4C yno i recordio noson y Gala Operatig (nos Sadwrn) a noson cyngerdd Tân y Ddraig (nos Lun). Bydd uchafbwyntiau Tân y Ddraig ar S4C nos Sadwrn, Awst 30 ac uchafbwyntiau’r Gala Operatig nos Sul, Awst 31. Darllenwch fwy am yr ŵyl ar y wefan hon.
Jazz Aberhonddu

Eleni mae Jazz Aberhonddu yn 25 oed. Roedd camerâu S4C yno eto yn ystod yr wyl oedd ymlaen Awst 7-10. Bydd cyfle i weld uchafbwyntiau’r wyl a rhaglen ddogfen yn dathlu’r 25 mlynedd ar S4C bob nos Sadwrn y mis yma, gan ddechrau ar Awst 16.
Eisteddfod 2008

Eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Brifddinas (Awst 2-9). Os dych chi ddim yn gallu dod i Gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd, bydd cyfle i chi wyliau’r holl hwyl a’r cystadlu ar S4C, S4C Digidol, S4C2 ac ar S4C Band Llydan. Mae’r darlledu yn dechrau gyda chyngerdd byw ar S4C o Bafiliwn yr Eisteddfod nos Wener 1 Awst ac yn gorffen gyda golwg yn ôl ar yr wyl nos Sul 10 Awst.
Cyw

Dyma enw'r gwasanaeth newydd i blant bach ar S4C Digidol bob dydd (Llun-Gwener) rhwng 07:00 y bore a 13:30 y pnawn. Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar y gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth hefyd ar gael ar fand llydan. Am fwy o wybodaeth, ewch i s4c.co.uk/cyw.
Cwpan Rygbi’r Byd Dan 20

Mae Pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd Dan 20 yn dod i Gymru ym mis Mehefin. Bydd cyfle i chi wylio gemau byw ac uchafbwyntiau ar S4C rhwng 6 a 22 Mehefin 2008. Am fanylion llawn, ewch i wefan S4C.
Eisteddfod yr Urdd 2008

Eisteddfod Sir Conwy ydy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2008. Hon ydy gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop. Bydd yr Eisteddfod ymlaen o ddydd Llun 26 Mai tan ddydd Sadwrn 31 Mai. Mae maes yr Eisteddfod ar dir fferm Gloddaeth Isaf ym mhentref Glanwydden ger Llandudno.
Bydd cyfle i fwynhau pigion yr eisteddfod ar S4C a gwylio’r eisteddfod yn fyw ar S4C digidol ac ar-lein ar wefan S4C.
Bydd mwy am Eisteddfod yr Urdd a Sir Conwy ar y wefan yma yn ystod mis Mai.
Gallwch chi anfon e-gerdyn yr Urdd o’r wefan yma i ddymuno’n dda i bobl sy’n mynd i’r eisteddfod neu i ddathlu Dydd Ewyllys Da ar 18 Mai.
Y Pasg ar S4C

Bydd Bryn Terfel ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ymddangos mewn perfformiad o Falstaff ar S4C dros y Pasg. Mwy am Falstaff – Tu ôl i’r Llenni a Falstaff – Yr Opera ar y wefan hon.
Cofiwch hefyd am gyfres newydd Iolo Williams, Natur Cymru, sy’n parhau tan ddiwedd Ebrill.
Gallwch chi anfon e-gerdyn Y Pasg o’r wefan hon.
Pasg hapus i bawb!
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Caerdydd a'r Cylch 2-9 Awst 2008

Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Caerdydd a'r Cylch 2-9 Awst 2008
Mae'r daflen 'Cystadleuaethau i Ddysgwyr' ar gael nawr ac mae'n bosib cystadlu ar sawl lefel ar y llwyfan neu ar bapur. Mae hyd yn oed adran ar gyfer tiwtoriaid. Os am gopi anfonwch e-bost aton ni yma. Hefyd, cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â thîm 'Yma i Helpu' a fydd yn cynorthwyo dysgwyr eraill ar y maes ac yn croesawu dysgwyr potensial.
Gŵyl Dewi

Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008 oedd dydd gŵyl Dewi Sant. Bu farw Dewi, nawddsant Cymru, ar y diwrnod yma yn y flwyddyn 589. Mae’n draddodiad i wisgo cenhinen neu genhinen Pedr ar y diwrnod. Mae hen ddywediad, “Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon.” Mae mwy am hanes Dewi yn y ganolfan hanes ar y wefan hon. Mwynhewch y diwrnod a chofiwch anfon e-gerdyn!
Dydd Santes Dwynwen (25 Ionawr)
Cofiwch anfon e-gerdyn at eich cariad neu eich cariadon!Hen Galan
Ym mis Medi 1752 dechreuodd Prydain ddefnyddio Calendr y Pab Gregori XIII a chollwyd 11 diwrnod o’r hen galendr. Dydd Mercher 2 Medi 1752 oedd diwrnod olaf hen galendr Julius Caesar a’r diwrnod wedyn, dydd Iau 14 Medi oedd diwrnod cyntaf y calendr newydd.
Mewn rhannau o Gymru, roedd llawer o bobl yn anhapus gyda’r newid ac aethon nhw ymlaen i ddathlu dechrau’r flwyddyn (dydd calan) ar Ionawr 13 – dyma’r Hen Galan. Heddiw, mae pobl Cwm Gwaun yn Sir Benfro yn dal i ddathlu’r Hen Galan. Felly os oes teulu neu ffrindiau’n byw yno, cofiwch anfon neges i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda!
Cardiau Newydd

Cliciwch yma am ddewis o e-gardiau.
S4C yn helpu economi Cymru
Yn ôl adroddiad newydd, mae S4C wedi creu mwy na 2000 o swyddi yng Nghymru. Adroddiad llawn
Cwpan Rygbi'r Byd

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ar waith ar S4C er Nos Wener, 7 Medi. Mae taflen arbennig ar gyfer dysgwyr sydd am fwynhau'r gêmau yn fyw trwy'r Gymraeg. Ewch i 'Cylchgrawn' ar y chwith i all-lwytho copi.
Mwy yn Gwylio S4C
Mae nifer y bobl sy'n gwylio S4C yn ystod yr oriau brig wedi codi 3% yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae hyn er gwaethaf y gystadleuaeth gref o'r degau o sianelau eraill sydd ar gael. Mae nawr yn bosib gwylio S4C yn fyw ar y rhyngrwyd hefyd.
Llongyfarchiadau i S4C

Llongyfarchiadau mawr i S4C ar ennill pedair gwobr bwysig yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd. Enillodd y gyfres ddrama ‘Cowbois ac Injans’ y wobr am y Gyfres Ddrama Orau. Drama gyfres ydy hon wedi’i gosod mewn garej ceir ail-law mewn pentref o’r enw Trefawr. Mae gwefan S4C i Ddysgwyr hefyd wedi bwrw targed pwysig yn ddiweddar. Mae dysgwyr wedi treulio dros hanner miliwn o oriau ar y wefan.
Beth ydy'ch Lefel?
Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau a'r adnoddau ym maes Cymraeg i oedolion nawr yn cael eu labelu fel Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch neu Hyfedredd. Mae felly yn help i wybod, yn fras, beth ydy'ch lefel! Pwrpas y prawf hwn sydd ar gael trwy www.acen.co.uk, www.dysguars4c.co.uk ac www.dysgwr.com ydy asesu'ch lefel trwy gyfres o gwestiynau aml-ddewis. Dylech chi drin y canlyniad fel canllaw yn unig achos dyn ni ddim mewn sefyllfa I brofi'ch sgiliau llafar. Mae'r asesiad, fodd bynnag, yn un trylwyr a bydd yn cymryd o leiaf 15 - 20 munud.
Cylchgrawn Acen yn Ffurfiau’r Gogledd
Am y tro cyntaf, mae rhan o gylchgrawn Acen ar gael ar-lein yn ffurfiau’r gogledd. Os am gael copi, ewch I www.dysguars4c.co.uk neu www.acen.co.uk. Does dim ffi all-lwytho. Sylwadau os gwelwch chi’n dda. Os oes galw, bydd y cylchgrawn cyfan ar gael o Fedi.
