yr ystafell gefn
All-lwytho Isdeitlau Cymraeg
Mae S4C yn darparu isdeitlau Cymraeg ar nifer o’i raglenni Cymraeg. Isdeitlau ydyn nhw sy’n adlewyrchu’r iaith a glywir ar y rhaglenni. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o ffurfiau iaith - o iaith lafar ffurfiol i dafodiaith ond dydyn nhw ddim yn cynnwys acenion. Mae’r isdeitlau hyn yn addas as gyfer dysgwyr ar Lefelau Uwch a Hyfedredd.
Mae dysgwyr yn gallu all-lwytho isdeitlau Cymraeg ar ffurf dogfen WORD. Bydd yr isdeitlau ar gael fel arfer y diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf. Mae’r rhan fwyaf o raglenni S4C yn cael eu dangos fwy nag unwaith, yn arbennig ar S4C digidol. Gallwch hefyd wylio rhaglenni ar y we drwy wasanaeth “ Gwylio yma” S4C. (Mae isdeitlau ar gael ar y gwasanaeth hwn.)
Sut i ddefnyddio’r isdeitlau:
- All-lwytho’r isdeitlau.
- Darllen yr isdeitlau i ddeall a dilyn cynnwys y rhaglen.
- Recordio’r rhaglen a’i gwylio neu ei gwylio ar y we.
Isdeitlau ar gael i’w hall-lwytho:
- Casa Dudley - Mercher 20:25
- Yr Afon - Llun 21:00 (o 29 Medi)
- Y Tŷ Cymreig - Mercher 21:00
- Con Passionate - Sul 21:00
