yr ystafell gefn
Isdeitlau Saesneg
Analog
- Trowch eich set deledu i S4C
- Pwyswch y botwm text ar y teclyn llaw
- Pwyswch 888
- Mi fydd yr isdeitlau yn ymddangos yn awtomatig
Ar ddiwedd y rhaglen, pwyswch text eto i ganslo'r isdeitlau.
Lloeren Digidol (SKY)
Dull sydyn yw i bwyso'r botwm help neu...
- Pwyswch y botwm services ar y teclyn llaw
- Gyda'r botymau saeth, symud y llinell felen i system set up
- Pwyso'r botwm select ar y teclyn llaw
- Defnyddio'r botymau saeth i oleuo'r 3ydd opsiwn sef language and subtitles
- Pwyso'r botwm select ar y teclyn llaw
- Sicrhau bod Saesneg wedi ei oleuo (os nad yw wedi ei ddewis yn awtomatig, defnyddiwch y botymau saeth i wneud hyn)
- Pwyso'r botwm on ar sgrîn
- Pwyso'r botwm save new settings ar sgrîn
- Pwyso'r botwm back-up ar y teclyn llaw
- Byddwch yn dychwelyd i'r brif ddewislen yn awtomatig
- Dewis S4C yn y ffordd arferol - 104 yng Nghymru (135 y tu allan i Gymru)
- Mi fydd yr isdeitlau yn ymddangos yn awtomatig
Unwaith fo'r rhaglen wedi dod i ben, dilynwch gamau 1-4 nes i chi gyrraedd y ddewislen language and subtitles, yna pwyswch y botwm off ac yna back-up.
Neu, pwyswch y botwm coch, dewiswch subtitles a phwyswch select i ddewis yr iaith isdeitlo.
Digidol Daearol (Freeview)
- Trowch eich set deledu i S4C
- Pwyswch y botwm subtitles ar y teclyn llaw
- Mi fydd yr isdeitlau yn ymddangos yn awtomatig
Unwaith fo'r rhaglen wedi dod i ben, pwyswch y botwm subtitles eto i ganslo'r isdeitlau.
Cebl Digidol
- Pwyswch y botwm guide
- Dewiswch settings (y botwm glas)
- Dewiswch TV settings (opsiwn 3)
- Dewiswch turn subtitles a newidiwch i on
- Pwyswch y botwm TV
I droi'r isdeitlau i ffwrdd, ailadroddwch gamau 1-4 a dewiswch turn subtitles off.
