yr ystafell gefn
Telerau a'r Amodau
Gwefan Dysgu Ar S4C
1. Cyhoeddir y wefan hon gan Acen. Acen ydy’r unig gyhoeddwr ac mae’r cwmni yn gyfrifol am yr holl gynnwys. Gellir cysylltu ag Acen trwy post@acen.co.uk neu drwy’r post. Y cyfeiriad llawn ydy Acen, Ty Ifor, Stryd y Bont, Caerdydd. CF10 2EE. Bydd Acen fel arfer yn ymdrechu i ymateb i negeseuon o fewn diwrnod gwaith ond lle bo’r broblem yn un gymhleth, gallai ACEN gymryd hyd at 14 diwrnod gwaith i anfon ateb.
2. Mae eich mynediad i’r wefan hon yn ddarostyngedig i'r telerau a'r amodau cyfreithiol canlynol a fydd yn effeithiol o'r dyddiad cyntaf i chi gael mynediad i'r wefan. Trwy fynd i mewn i’r wefan hon, rydych yn cytuno'n ddiamod i'r telerau ac amodau.
3. Mae'r holl hawliau yn y wefan (gan gynnwys hawlfraint, hawliau bas data, a hawliau eiddo deallusol eraill) wedi'u trwyddedu i neu yn eiddo i ACEN ar bob adeg. Mae'r holl ddeunydd a gynhwysir ar y wefan gan gynnwys testun, delweddau, fideo, sain, graffeg, nodau masnach, logos, nodau gwasanaeth a thebygrwydd gweledol yn ddeunydd perchnogol neu hawlfraint ac oni nodir fel arall ni ellir ei gopïo, ei atgynhyrchu, ei ddadlwytho, ei gyfleu, ei drosglwyddo, ei ddosbarthu, ei gadw mewn unrhyw fodd (gan gynnwys ar unrhyw wefan arall) nac ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd ac eithrio y gallwch fodd bynnag ddadlwytho un copi o ddeunydd a ddangosir ar y wefan ar eich cyfrifiadur cartref at ddefnydd anfasnachol personol ar yr amod eich bod yn cadw pob hawlfraint, cydnabyddiaeth a hysbysiad arall a gynhwysir ar y deunydd. Ni fyddwch yn addasu deunydd o'r fath nac yn ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
4. Bydd ACEN yn gwneud pob ymdrech resymol i fonitro ac arolygu'r drafodaeth, y sgwrsio, y cyfleu, y trosglwyddo ac unrhyw ddeialog arall ar y wefan o bryd i'w gilydd ac i ddilyn yr arferion gorau yn gyffredinol. Serch hynny, ni all ACEN fonitro'r holl gyfryw ddeunydd trwy'r amser ac mae’r wefan a'i chynnwys wedi'i ddarparu "FEL Y MAE". Ni fydd ACEN yn gyfrifol ac y mae yma yn ymwrthod yn benodol hyd y bo'r gyfraith yn caniatáu hynny â phob cyfrifoldeb ac atebolrwydd o unrhyw fath (gan gynnwys atebolrwydd am unrhyw iawndal gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gostau uniongyrchol neu anuniongyrchol neu golledion eraill mewn perthynas â neu sy'n deillio o unrhyw ddefnydd neu gamddefnydd o’r wefan) am unrhyw wall, anghywirdeb, camliwiad, difenwad, anwaith, anwiredd, anlladrwydd, cabledd, deunydd pornograffig, deunydd peryglus neu unrhyw ddeunydd arall a gynhwysir o fewn y wefan. Nid yw ACEN yn gwarantu y bydd y gweithrediadau sydd wedi'u cynnwys o fewn y wefan yn ddiymyriad neu yn rhydd o unrhyw wallau, nac ychwaith bydd unrhyw wallau yn cael eu cywiro, neu bod y wefan neu'r gweinydd y darperir y wefan arno yn rhydd o bob feirws. Nid yw ACEN yn gwarantu ymarferoldeb, cywirdeb neu ddibynnedd y cyfryw ddeunydd. Ymhellach, nid yw ACEN yn arolygu nac yn monitro cynnwys unrhyw dudalennau i ffwrdd o'r wefan nac unrhyw safleoedd eraill cysylltiedig â’r wefan ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd ac ni fydd yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw beth a gynhwysir yno (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw werthiant neu weithrediadau masnachol sy'n digwydd ar y cyfryw safleoedd).
5. Ni chewch:
a. gyfleu na throsglwyddo ar unrhyw adeg ar y wefan unrhyw rai o'r deunyddiau hyn:
- deunydd anweddus, anllad, di-chwaeth neu bornograffig
- deunydd sy'n anghyfreithlon, yn fygythiol, yn ddifrifol, yn erlidiol neu'n ddifenwol
- deunydd sy'n hiliol, yn ethnig neu'n grefyddol atgas neu annymunol
- deunydd sy'n ddifenwol neu'n peri cynnwrf
- deunydd sy'n gableddus
- llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid neu hysbysebu na ofynnwyd amdano
- unrhyw ddeunydd sy'n torri ar hawliau pobl eraill fel hawlfreintiau neu hawliau moesol
b. wneud unrhyw beth sy'n cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad tanysgrifiwr arall o’r wefan
c. ddefnyddio’r wefan at unrhyw ddiben anghyfreithlon
ch. darfu ar y wefan trwy, er enghraifft, wneud i'r sgrin rolio'n rhy gyflym i danysgrifwyr eraill allu teipio eu negeseuon, neu newid y pwnc yn gyflym er mwyn rhwystro llif y dialog.
Mae ACEN yn cadw'r hawl i ddiddymu eich mynediad i'r wefan ar unwaith a gall gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os byddwch yn torri'r telerau ac amodau hyn ar ymddygiad ar-lein.
6. Cytunwch i beidio â gweithredu ar sail unrhyw wybodaeth neu ddeunydd a gynhwysir ar y wefan na dibynnu ar y wybodaeth honno neu’r deunydd hwnnw. Darperir y wybodaeth a’r deunydd gan ACEN er diddordeb cyffredinol ac adloniant yn unig. Ni fydd ACEN yn atebol ac y mae yma yn ymwrthod yn benodol hyd y bo'r gyfraith yn caniatáu hynny ag unrhyw atebolrwydd sy'n deillio o'ch dibyniaeth ar wybodaeth o'r fath o unrhyw natur boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
7. Ni fydd unrhyw wybodaeth neu ddata a drosglwyddwch (ar wahân i'ch manylion personol) neu a gyflëwch ar y wefan yn gyfrinachol a bydd yn perthyn yn ddiamod i ACEN a gellir ei defnyddio gan ACEN at unrhyw ddiben gan gynnwys heb gyfyngiad ar gyfer atgynhyrchu, datgelu i drydydd partïon, darlledu, trosglwyddo, cyfleu neu fel arall yn ôl doethineb lwyr ACEN, ac mewn cydnabyddiaeth am ganiatâd gan ACEN i chi gael mynediad i'w wefan ac am gydnabyddiaeth arall dda a gwerthfawr yr ydych trwy hyn yn cydnabod ei bod yn ddigonol, yr ydych trwy hyn yn aseinio i ACEN trwy aseiniad presennol o hawlfraint presennol a dyfodol bob hawl o unrhyw fath yn ac i ddeunydd o'r fath trwy'r byd ac am byth gan gynnwys pob adnewyddiad a rifersiwn o'r cyfryw hawliau.
8. Cytunwch i indemnio ACEN a'i chadw wedi ei hindemnio rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, iawndal, treuliau, costau ac atebolrwydd sy'n deillio mewn unrhyw ffordd o'ch mynediad I’r wefan a'ch defnydd o'r safle honno ac eithrio yn unol â'r telerau a'r amodau hyn. Bydd gan ACEN yr hawl i gasglu a chadw gwybodaeth am unrhyw ddefnyddiwr ar ffurf cyfeiriad IP a throsglwyddo’r wybodaeth honno i’r heddlu neu unrhyw asiantaeth briodol arall os gorchmynnir i ACEN wneud hynny trwy gyfraith neu er mwyn amddiffyn ACEN yn erbyn unrhyw achos llys.
9. Gall ACEN o dro i dro ddiweddaru a newid y telerau a'r amodau hyn a chytunwch i gael eich rhwymo gan newidiadau o'r fath a dylech felly ymweld â'r dudalen hon yn wythnosol er mwyn ymgyfarwyddo â'r newidiadau hynny.
10. Nid yw ACEN yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb i gynnal na diweddaru’r wefan ac nid yw ACEN yn datgan neu'n gwarantu bod yr wybodaeth sydd i'w chanfod arni yn gywir, cyflawn neu'n gyfoes.
11. Bydd gan Acen yr hawl i gysylltu â chi trwy'r post, e-bost neu ffôn lôn o dro i dro i roi gwybod am wasanaethau, raglenni teledu neu adnoddau. Bydd gennych yr hawl i ddiddymu hawl Acen i gysylltu â chi ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu'n ffurfiol at Gyfarwyddwr Acen. Bydd gan Acen yr hawl i osod 'cookie' ar eich PC i alluogi'r wefan i'ch nabod y tro nesaf y byddwch yn ymweld. Bydd gennych yr hawl i ddileu'r 'cookie' ond bydd yn rhaid i chi wedyn logio i mewn cyn defnyddio'r adnoddau.
12. Os bydd unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn yn cael eu gwahardd neu eu barnu yn ddi-rym neu'n anghyfreithlon, yna bydd cymaint ag sy'n angenrheidiol o'r ddarpariaeth honno'n cael ei ddileu o'r telerau ac amodau hyn a'i wneud yn aneffeithiol, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl heb newid y telerau ac amodau sydd yn weddill.
13. Dehonglir y telerau ac amodau hyn yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
