S4C's Website for Welsh Learners
Today's News
These news items for Intermediate students have been designed to provide language practice and are not 'real'. Over a period the resource will introduce all the main news patterns and vocabulary.
Y dyddiad heddiw ydy'r unfed ar ddeg (the eleventh) a dyma'r newyddion
Mae bachgen pump oed yn ddifrifol wael (seriously ill) yn yr ysbyty yn Wrecsam heddiw ar ôl cael ei daro gan gar yn y dref. Roedd y bachgen ar y ffordd adref o'r ysgol gyda'i fam yn Stryd Bishopston pan ddigwyddodd y ddamwain (when the accident happened). Mae'r heddlu yn chwilio (searching) am fan wen (a white van) ac maen nhw eisiau siarad ag unrhyw dystion (any witnesses).
Mae teulu yn Llanfairfechan yn dathlu heddiw ar ôl ennill 7.4 miliwn yn loteri America. Roedd Mrs Lisa Jones wedi prynu'r tocyn loteri ar wyliau yn San Fransico. Mae'r teulu nawr yn ystyried prynu tŷ yn America. Mae Kayleigh Jones - y ferch - sy'n un deg chwech oed eisiau prynu rhai o ffrogiau Victoria Beckham.
Mae adroddiad newydd (new report) gan y Grŵp Breast is Best wedi condemnio siopau a busnesau sy'n dal i wahardd (ban) mamau sy'n bwydo babanod yn naturiol yn gyhoeddus (in public). Yn ôl yr adroddiad (according to the report) mae mamau yn aml yn teimlo'r euog (feel guilty) ac yn angyhysurus (uncomfortable).
A'r traffig i orffen. Mae bws wedi torri i lawr ar y B612 ger Cefnolau ac mae'r traffig yn symud yn araf iawn. Dylech ddefnyddio (you should use) y B613 tan saith o'r gloch heno.
Dyna'r newyddion heddiw - yr unfed ar ddeg o'r mis.