S4C's Website for Welsh Learners
Specials
- Maps of Wales
- Meeting Syr John Falstaff
- Meeting Warren Gatland
- Meeting Dafydd Iwan (S4C - 25 December) - North
- Meeting Dafydd Iwan (S4C - 25 December) - South
- Happy New Year - Songs for Learners
- Meeting Nia Parry
- Meeting Shane Williams
- Interview with John Walter Jones, chairman of S4C.
- Rugby World Cup
- Meeting Andrew Green
Meeting Syr John Falstaff
Y Cwestiynau / The Questions
O’ch chi’n llwyddiannus? -
Were you successful?
O ble dych chi’n dod yn wreiddiol? -
Where do you come from originally?
O’ch chi’n siarad Cymraeg? -
Did you speak Welsh?
Aethoch chi i ymladd yn erbyn Owain Glyndŵr? -
Did you go to fight against Owain Glyndŵr?
Felly pan aeth Tywysog Cymru yn Harri’r Pumed, cawsoch chi amser hawdd iawn? - So when the Prince of Wales became Henry V you had a very easy time?
A doedd Harri’r Pumed ddim yn hoffi’r syniad? - And Henry V didn’t like the idea?
Aeth pethau’n dda? -Did things go well?
Dych chi’n falch bod Verdi wedi ysgrifennu opera amdanoch chi? - Are you pleased that Verdi has written an opera about you?
Acen: Beth ydy’ch enw llawn chi?
FAL: Syr John Falstaff.
Acen: O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
FAL: Ces i fy ngeni yn Henffordd.
Acen: Pryd?
FAL: Ym 1378.
Acen: O’ch chi’n siarad Cymraeg?
FAL: O’n. Roedd llawer o bobl Henffordd yn siarad Cymraeg ar y pryd.
Acen: Oedd diddordebau gyda chi?
FAL: Oedd! Merched, gwin a chwrw! Ro’n i hefyd yn hoffi gamblo.
Acen: O’ch chi’n llwyddiannus?
FAL: Gyda’r merched, o’n. Gyda’r gamblo – nac o’n yn anffodus. Ro’n i mewn dyled yn aml.
Acen: Pwy oedd eich ffrindiau chi?
FAL: Wel, Harri, Tywysog Cymru i ddechrau. Es i gyda fe i ymladd yn Nghymru ac yn yr Alban.
Acen: Felly aethoch chi i ymladd yn erbyn Owain Glyndŵr?
FAL: Do.
Yr Atebion / The Answers
Ces i fy ngeni yn Henffordd – I was
born in Hereford
Ar y pryd – At the time
Gwin a chwrw – Wine and beer
Mewn dyled yn aml – In debt often
Tywysog Cymru – The Prince of Wales
Ymladd – To fight
Wedi ymuno – Joined
Ysgrythurau – Scriptures
Ieithoedd gwahanol – Different languages
Tŵr Llundain – The Tower of London
Caint – Kent
Ceisio dal – To try and catch/capture
Y Trallwng – Welshpool
Ces i fy nal – I was caught
Ces i fy nghrogi – I was hanged
Ces i fy llosgi – I was burnt
Acen: Felly pan aeth Tywysog Cymru yn Harri’r Pumed, cawsoch chi amser hawdd iawn.
FAL: Wel…..naddo. Ro’n i wedi ymuno â grŵp o’r enw y Lolardiaid – grŵp Ewropeaidd oedd eisiau gweld yr ysgrythurau mewn ieithoedd gwahanol.
Acen: A doedd Harri’r Pumed ddim yn hoffi’r syniad?
FAL: Nac oedd! Ces i fy anfon i’r Tŵr!
Acen: Tŵr Llundain?
FAL: Ie. Ro’n i’n lwcus. Gwnes i ddianc! Ro’n i’n un o’r grŵp wedyn a aeth i Eltham Palace, Caint i geisio dal Harri’r Pumed.
Acen: Aeth pethau’n dda?
FAL: Naddo. Es i i’r Trallwng ond ces i fy nal. Ces i fy ngrogi. Wedyn, ces i fy llosgi.
Acen: Dych chi’n falch bod Verdi wedi ysgrifennu opera amdanoch chi?
FAL: Ydw. A dw i’n falch bod Bryn Terfel yn chwarae rhan Falstaff. Mae e bron mor olygus â fi.