S4C's Website for Welsh Learners
Specials
Meeting Nia Parry
The Questions
- Ble cawsoch chi (gaethoch chi) eich geni/ magu?
- Where were you born/ brought up?
- Ble dych chi’n byw nawr?
- Where do you live now?
- Dych chi’n briod?
- Are you married?
- Oes brodyr neu chwiorydd gyda chi?
- Do you have any brothers or sisters?
- Anifeiliaid anwes
- Pets
- Diddordebau
- Interests
- Ar wyliau
- On holiday
- Ble aethoch chi i’r ysgol?
- Where did you go to school?
- Gadael yr ysgol
- To leave school
- Eich camp fwyaf hyd yn hyn
- Your greatest accomplishment so far
- Swydd gyntaf
- First job
The Answers
- pêl-rwyd
- netball
- Yr Eidal
- Italy
- oedolion
- adults
- cyfres
- series
- Beth ydy eich enw llawn?
- Nia Parry yn y gwaith a Mrs Nia Davies tu allan i’r gwaith.
- O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
- Dw i’n dod o Landrillo yn Rhos, ger Bae Colwyn.
- Ble dych chi’n byw?
- Dw i’n byw yng Nghaerdydd.
- Dych chi’n briod?
- Ydw. Enw’r gŵr ydy Aled.
- Oes plant gynnoch chi?
- Nac oes.
- Oes anifeiliaid anwes gynnoch chi?
- Nac oes.
- Beth ydy eich diddordebau chi?
- Dw i’n mwynhau chwarae pêl-rwyd a dawnsio salsa.
- Ble dych chi’n hoffi mynd ar wyliau?
- Dw i’n hoffi mynd i’r Eidal.
- Ble aethoch chi i’r ysgol?
- Es i i Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn ac Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.
- Beth wnaethoch chi ar ôl gadael yr ysgol?
- Es i i India, Nepal, Israel a Twrci.
- Beth oedd eich swydd gyntaf chi yng Nghymru?
- Fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion yng Nghaerdydd.
- Beth oedd eich swydd gyntaf ar y teledu?
- Welsh in a Week – cyfres i bobl yn dysgu Cymraeg. Roedd hi’n grêt!
- Beth dych chi’n wneud nawr?
- Dw i’n gweithio ar Cwpwrdd Dillad – cyfres am bobl a dillad.
- Dych chi’n mwynhau’r gwaith teledu?
- Ydw, dw i’n mwynhau’r gwaith yn fawr iawn.